Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Gorffennaf 2021
Amser:
09.30 -
10.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12396
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Andrew RT Davies AS Heledd Fychan AS John Griffiths AS |
Tystion: |
Douglas Bain, Comisiynydd Safonau |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Williams (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2 Cylch gwaith y Pwyllgor
2.1 Trafododd y Pwyllgor ei gylch gwaith a’i nodi, fel sydd wedi’i ragnodi gan Reol Sefydlog 22.
3 Papurau i'w nodi
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.1 Penderfynodd y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5 Gweithdrefnau’r pwyllgor a’i ffyrdd o weithio
5.1 Croesawodd y Cadeirydd y Comisiynydd Safonau i'r cyfarfod.
5.2 Trafododd y Pwyllgor ei weithdrefnau a'i ffyrdd o weithio.
5.3 Yn unol â pharagraff 10.2 o'r weithdrefn, cytunodd y Pwyllgor i ethol Andrew RT Davies yn gadeirydd dros dro mewn achosion lle na all y Cadeirydd gyflawni ei ddyletswyddau.
6 Gwaith cynnar y Pwyllgor
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei weithgaredd cynnar a chytunodd ar flaenoriaethau'r rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref a thu hwnt.
7 Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
7.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).
8 Gohebiaeth gan y Comisiynydd Safonau at Gadeirydd y Pwyllgor
8.1 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Comisiynydd Safonau o dan baragraff 10 o'r weithdrefn gwynion.